facebook-pixel

Coes las Cig Eidion Cymru wedi ei choginio’n araf gyda grawn rhyg bioddynamig gan Matt Powell

  • Amser paratoi 18 awr
  • Amser coginio 6 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 2kg coes las Cig Eidion Cymru (darn cyfan)
  • 3 moronen fawr
  • 3 winwnsyn mawr
  • 1 bouquet garni (clwstwr o berlysiau wedi eu clymu gyda’i gilydd) – teim, rhosmari, marjoram
  • 2 botel o gwrw tywyll (mae Pembrokeshire Catchy Pole yn gweithio’n dda!)
  • 1.5l stoc cig eidion
  • 150g menyn
  • 2 lwy fwrdd olew hadau rêp
  • Halen a phupur du wedi’i falu

Ar gyfer sglein y cig:

  • 150ml suddion y goes las
  • 50g menyn
  • 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • Halen a phupur du wedi’i falu

Ar gyfer y grawn rhyg bioddynamig (dewisol – gallwch ddefnyddio tatws stwnsh yn lle):

  • 260g grawn rhyg bioddynamig organig
  • 2 shibwnsyn wedi eu torri’n fân
  • 30g menyn
  • 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
  • 1l stoc cig eidion
  • 6 sbrigyn o deim
  • Halen a phupur

Ar gyfer y planhigion gwrych (dewisol – gallwch ddefnyddio llysiau’r gwanwyn yn lle):

  • 8 sbrigyn efwr cyffredin
  • 12 deilen dant y llew
  • 8 deilen garlleg gwyllt
  • Blodau’r llefrith
  • Blodau garlleg gwyllt
  • 12 deilen suran
  • Emylsiwn i goginio’r efwr (yr un faint o ddŵr a menyn, a halen a phupur)

Dull

  1. Mwydo coes las y cig eidion, y moron, y winwns a’r bouquet garni yn y cwrw am 12 i 18 awr, gan ei throi ar ôl 6 i 9 awr.
  2. Tynnu’r goes las allan o’r marinâd cwrw a gwahanu’r cig oddi wrth y moron a’r winwns. Tynnu’r bouquet garni allan, a’i roi o’r neilltu. Ychwanegu’r stoc at y marinâd cwrw, a’i ferwi. Sgimio unrhyw amhuredd sy’n dod i’r top.
  3. Rhoi lliw ar y goes las yn y menyn a’r olew hadau rêp drwy ei ffrio ar dymheredd isel – mae angen carameleiddio’r cig yn hytrach na’i losgi. Gwneud hyn gyda’r winwns a’r moron hefyd, gan eu carameleiddio’n braf.
  4. Rhoi pupur a halen ar y cig eidion a’r llysiau ac yna rhoi’r moron a’r winwns dros y goes las. Arllwys y cwrw cynnes a’r stoc cig eidion. Gorchuddio’r cyfan gyda ffoil a’i roi yn y ffwrn ar 160 ºc / 140ºc fan / Nwy 3 am 4 i 6 awr. Dylai’r cig syrthio i ffwrdd o’r braster a’r gewynnau pan fo’n barod.
  5. Pan fo’r cig wedi coginio, hidlo’r suddion trwy liain mwslin gyda colandr a phadell oddi tano i ddal y stoc a’r cwrw. Sgimio unrhyw fraster oddi ar y stoc. Rhoi 150ml o suddion y goes las o’r neilltu er mwyn creu’r sglein, a lleihau gweddill y saws coes las o ddau draean. Dyma’r saws ar gyfer y cig eidion.
  6. Er mwyn sgleinio’r cig eidion, twymo’r menyn a’r olew hadau rêp yn ysgafn mewn padell sydd wedi ei thwymo ymlaen llaw gan ychwanegu darnau o goes las y cig eidion ac arllwys ei suddion. Parhau i droi’r darnau o goes las er mwyn eu sgleinio’n ysgafn (a seimio’r menyn a’r sudd sy’n weddill er mwyn eu gorchuddio’n gyfartal). Ychwanegu pupur a halen.
  7. Er mwyn coginio’r grawn rhyg bioddynamig, chwysu’r shibwns mân yn ysgafn yn y menyn a’r olew hadau rêp a phan fo’r shibwns yn feddal, ychwanegu’r teim a’r grawn rhyg. Tywallt 750ml o’r stoc cig eidion, ei orchuddio â phapur gwrthsaim a rhoi caead ar y sosban. Ei gadw ar dymheredd isel iawn, gan ei droi bob hyn a hyn ac ychwanegu ychydig o stoc os yw’r grawn rhyg yn mynd yn rhy sych. Pan fo’r grawn rhyg wedi coginio, tynnu’r teim allan.
  8. Yn olaf, dechrau addurno’r plat trwy dwymo’r emylsiwn coginio (y gymysgedd o ddŵr a menyn) mewn sosban a gollwng y sbrigau efwr i mewn iddi. Eu gadael yn yr emylsiwn am funud, yna eu tynnu allan a’u rhoi ar bapur cegin cyn ychwanegu pupur a halen.
  9. Yna, twymo’r grawn rhyg yn ysgafn a’u cadw’n boeth o’r neilltu, a thwymo’r saws coes las wedi ei dewychu a chadw hwn yn boeth hefyd. Rhoi 2 lwy fwrdd o rawn rhyg yng nghanol pob plat, yna rhoi darn o’r goes las â sglein arni ar y grawn. Gosod yr efwr a’r dail gwyrdd eraill o gwmpas y cig eidion a’r grawn rhyg. Yn ofalus, tywallt ychydig o saws dros y cig eidion a’i weini.
Share This