facebook-pixel

Stêc Cig Eidion Cymru “au poivre” gan Bryan Webb

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 x 175g stêc ffiled Cig Eidion Cymru PGI
  • 2 lwy fwrdd grawn pupur du
  • 2 lwy fwrdd grawn pupur gwyn
  • 3 llwy fwrdd olew blodau’r haul
  • 60g menyn heb halen
  • 2 joch dda o frandi
  • 2 lwy fwrdd hufen dwbl
  • 4 llwy fwrdd sglein/stoc cig – dewisol

Dull

  1. Malu’r grawn pupur mewn pestl a morter neu falwr coffi. Arllwys y pupur i mewn i ogr dros bowlen a’i ysgwyd yn dda er mwyn cael gwared â’r holl bowdr bupur (gallwch ddefnyddio hwn eto). Neu, defnyddio grawn pupur sydd wedi’i falu’n barod.
  2. Gwasgu’r grawn pupur i mewn i ddwy ochr y stêcs, a’u rhoi ar lestr.
  3. Twymo’r olew mewn padell ffrio drwchus, sy’n ddigon mawr i ddal yr holl stêcs gyda digon o le. Pan fo’r badell yn ddigon poeth, ffrio’r stêcs am 2 funud tan bod crwst yn ffurfio, yna troi a choginio’r stêcs am 2 funud arall (heb ddefnyddio tymheredd rhy uchel rhag llosgi’r pupur). Os am goginio’r cig rhagor, mae angen troi’r stêcs eto – ddim yn rhy aml, chwaith.
  4. Rhoi’r stêcs ar lestr cynnes a’u cadw’n gynnes mewn ffwrn ar dymheredd isel iawn (tua 50ºC) i orffwys. Ychwanegu’r menyn i’r badell ffrio a’i adael i newid lliw nes ei fod yn frown fel cneuen, yna ychwanegu’r brandi (gan ofalu peidio â rhoi llenni neu awyrell eich ffwrn ar dân!). Berwi’r brandi, a chrafu darnau o waelod y badell, cyn ychwanegu’r hufen, sglein neu stoc y cig os ydych chi’n ei ddefnyddio, cyn ei ferwi eto.
  5. Rhoi’r stêcs ar blatiau cynnes ac ychwanegu unrhyw suddion o’r stêcs i’r saws; ei hidlo os hoffech, a’i arllwys dros y stêcs. Gweini’r stêcs gyda beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd – mae sglodion neu datws a llysiau tymhorol yn syniad da.
Share This