facebook-pixel

Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gydag asbaragws, madarch, winwns a garlleg gwyllt gan Bryn Williams

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stêcs syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, heb dynnu’r braster
  • Halen a phupur
  • Joch o olew olewydd
  • Ambell ewin garlleg, wedi eu malu yn eu crwyn
  • Llond llaw o deim ffres
  • Ambell dalp o fenyn
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei sleisio
  • 150g madarch, wedi eu sleisio
  • Clwstwr o asbaragws (neu gennin bychain / ffa gwyrdd)
  • Llond llaw fach o arlleg gwyllt, wedi eu rhwygo’n fras
  • 1 llwy de o saws rhuddygl poeth neu fwstard er mwyn gweini (dewisol)

Dull

  1. Twymo padell ffrio gydag ychydig o olew. Sicrhau bod y cig ar dymheredd yr ystafell cyn rhoi ychydig o bupur a halen arno a’i osod yn y badell – dylech glywed sŵn hisian.
  2. Ychwanegu’r garlleg, teim ac ambell dalp o fenyn ar ben y stêcs a’u ffrio, gan eu troi’n rheolaidd er mwyn coginio’r ddwy ochr cystal â’i gilydd yn ogystal â’r braster, a seimio’r menyn sydd wedi torri ar y stêcs. Cyngor: bydd ychwanegu’r menyn ar ôl yr olew yn golygu na fydd y menyn yn llosgi a bydd yn cael ei amsugno’n well i mewn i’r cig.
  3. Pan fo’r stêc wedi coginio at eich dant, ei thynnu allan o’r badell a’i gadael i orffwys am 5-10 munud mewn lle cynnes. Nawr mae’n amser coginio’r tameidiau ochr. Cyngor: defnyddio’r un badell ffrio heb ei draenio na’i glanhau er mwyn gallu defnyddio’r blasau sydd dros ben a’r darnau bach crimp.
  4. Ffrio’r winwns tan eu bod yn feddal, gan grafu’r darnau wedi eu carameleiddio o waelod y badell a’u cymysgu i mewn i gael cymaint o flas â phosibl. Pan fo’r winwns bron yn barod, ychwanegu’r madarch. Cyngor: peidio ag ysgwyd y badell na chymysgu ar ôl ychwanegu’r madarch, oherwydd mae angen i’r dŵr ddod allan o’r madarch ac anweddu wrth iddo fwrw’r badell boeth.
  5. Ychwanegu’r asbaragws ac ambell dalp o fenyn i sosban arall, gyda digon o ddŵr i orchuddio ei gwaelod. Ychwanegu halen a choginio am 6 munud ar y mwyaf. Cyngor: ni ddylid berwi asbaragws, mae’n llawer iawn mwy blasus os caiff ei goginio yn ei suddion ei hun fel hyn.
  6. arllwys suddion o’r stêc sy’n gorffwys yn ôl i mewn i’r badell ffrio gyda’r winwns a’r madarch. Unwaith i’r madarch goginio, ychwanegu’r garlleg gwyllt a thynnu’r badell o’r gwres fel bod y garlleg yn cadw ei liw a’i flas. Cyngor: bydd y gwres sydd dros ben o’r winwns a’r madarch yn parhau i goginio’r dail am ryw hanner munud arall.
  7. Rhowch yr holl gynhwysion ar blat cynnes a’u gweini. Os ydych chi’n defnyddio saws rhuddygl poeth neu fwstard, ei daenu ar un ochr y stêc a’i gweini gydag ochr y saws yn wynebu i lawr er mwyn i’r blas fod yn gytbwys. Cyngor: am bryd sy’n edrych fel bwyd o fwyty, pentyrru’r madarch a’r winwnsyn ar ben y stêc a gweini’r asbaragws ar yr ochr, gan ychwanegu ychydig o halen i orffen.
Share This