facebook-pixel

Sut i greu byrgyr blasus!

Mai 24, 2019

Gyda thymor barbeciw yr haf ar y gorwel fe wnaethom anfon seren MasterChef, Imran Nathoo, i fwyty byrgyr HILLS yn Aberhonddu i ddysgu mwy am sut i greu byrgyrs Cig Eidion Cymru PGI o ansawdd a fyddai’n gweddu i unrhyw fwyty – ond i wneud hynny yn eich cegin eich hun.

Mae Owain a’i dîm yn HILLS yn weddol adnabyddus bellach ym myd bwytai byrgyrs, ac er taw dim ond 2 flynedd sydd ers iddynt agor ei drysau maent eisoes wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Byrgyr Cenedlaethol y DU. Felly dylent wybod cwpwl o bethau am yr hyn sydd ei angen i greu byrgyr fydd yn aros yn y cof, a dyna’r rheswm pam eu bod ond yn defnyddio Cig Eidion Cymru yn eu bwyty.

Wrth siarad am yr angen i gael cynnwys braster da, meddai Owain “Os wyt ti’n meddwl am stecen dda iawn gyda’r brithder yn rhedeg drwyddi, mae’r blas yn dod o’r braster felly rwyt ti am wneud rhywbeth tebyg gyda’r briwgig.”

Ond nid y cynnwys braster yn unig sy’n bwysig, gyda’r paratoadau o flaen llaw hefyd yn allweddol “Rydyn ni’n rholio’r briwgig i beli gaiff cael eu pwyso i 85 gram neu 3 owns. Mae angen rholio’r peli hyn wedyn, dau i bob person, yna eu rhoiar blât, eu gorchuddio mewn haenen lynu a’u rhoi yn yr oergell am o leiaf awr ymlaen llaw. Yn wahanol i stecen sydd angen bod ar dymheredd ystafell i’w choginio, rydym am i’r rhain fod yn oer fel bod y cynnwys braster yn oer ac nad yw’n toddi’n rhy gyflym yn y badell o dan y gwres uchel iawn.”

Felly eich tro chi – gwyliwch y fideo a chysylltwch â ni drwy ein sianelu cyfryngau cymdeithasol i ddangos eich byrgyrs blasus!

Share This