facebook-pixel

Amodau a Thelerau

Darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus. Os ydych yn defnyddio gwefan Cig Oen Cymru Hybu Cig Cymru yn eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/cig-oen-cymru/ (“y wefan”) yna rydych yn cytuno i’r rheolau hyn.

Cyffredinol

Mae’r wefan hon yn cynnig yr opsiwn i chi weld gwybodaeth am HCC. Os ydych yn dewis gweld yr wybodaeth hon, rydych yn derbyn bod HCC yn cyflenwi’r wybodaeth hon yn ôl eich cais unigol at ddibenion gwybodaeth.

Aelodau Teulu Cig Oen Cymru

1. Fel rhan o’ch cofrestriad â Theulu Cig Oen Cymru, byddwch yn derbyn gwybodaeth a chynigion gan HCC Cig Oen Cymru mewn perthynas â’i gynnyrch, yn y ffordd y gofynnoch amdani.

2. Mae HCC Cig Oen Cymru yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost fel manylion gorfodol pan fyddwch yn ymuno â Theulu Cig Oen Cymru. Mae hyn er mwyn helpu i sicrhau y gallwn eich adnabod chi. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwn deilwra ein gohebiaeth i ddiwallu’ch anghenion ac mae hefyd yn golygu os ydych yn cysylltu â ni gydag ymholiadau am eich manylion cofrestru, mae’n bosib i ni eich adnabod chi, ymateb i’ch ymholiad neu ddiwygio’ch manylion i chi.

3. Mae’n bosib y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â chyrff allanol hefyd at ddibenion dadansoddi marchnata gan HCC (yn y fath achos, rhennir gwybodaeth at ddibenion paru yn unig a chedwir gwybodaeth a ddefnyddir yn anhysbys). Er mwyn manteisio ar unrhyw gynigion arbennig, efallai y bydd angen rhannu gwybodaeth â chyflenwyr allanol Teulu Cig Oen Cymru.

4. Unwaith y byddwch wedi cofrestru i ymuno â Theulu Cig Oen Cymru, byddwch wedi gwirio’ch cyfeiriad e-bost (rydym yn defnyddio hwn fel dull adnabod ar eich cyfer). Ni fyddwn yn anfon unrhyw e-byst atoch os nad ydych wedi dewis hynny wrth gofrestru.

5. Rhaid i bob cyfrif gael ei gofrestru gyda chyfeiriad e-bost personol dilys rydych yn ei ddefnyddio’n rheolaidd fel y gall o leiaf e-byst am newidiadau neu wybodaeth bwysig gael eu hanfon atoch. Gallai cyfrifon a gofrestrir gyda chyfeiriad e-bost rhywun arall, neu gyfeiriad e-bost dros dro, gael eu cau heb rybudd. Efallai bydd angen i ddefnyddwyr ailddilysu eu cyfrif os ydym yn credu eu bod wedi bod yn defnyddio cyfeiriad e-bost annilys. Rydym yn cadw’r hawl i gau cyfrifon os gwelir bod unrhyw ddefnyddiwr yn defnyddio IP dirprwyol (cyfeiriadau protocol rhyngrwyd) er mwyn ceisio cuddio’r ffaith eu bod yn defnyddio mwy nag un cyfrif Teulu Cig Oen Cymru neu os yw defnyddiwr yn tarfu ar unrhyw un o’n gwasanaethau mewn unrhyw ffordd.

Eithriadau Atebolrwydd

6. Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y data ar y wefan yn gywir ac i gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cael gwybod amdanynt. Nid ydym yn monitro, yn gwirio nac yn arnodi gwybodaeth a gyflwynir gan drydydd partïon i’w chyhoeddi ar y wefan a dylech fod yn ymwybodol y gallai gwybodaeth o’r fath fod yn anghywir, yn anghyflawn neu’n hen. I’r graddau a ganiateir gan gyfraith berthnasol, rydym yn gwadu pob gwarantiad a sylw (boed wedi’i fynegi neu ei awgrymu) o ran cywirdeb unrhyw wybodaeth ar y wefan. Nid ydym yn gwarantu na fydd unrhyw ddiffygion ar y wefan ac nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw wallau neu hepgoriadau.

7. Ni fyddwn ni nac unrhyw un o’n cysylltiedigion yn atebol am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig neu ôl-ddilynol (gan gynnwys hawliadau, colli elw, refeniw neu ewyllys da trydydd partïon) rydych chi neu unrhyw drydydd parti yn ei ddioddef mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan. Ni ddylid dehongli unrhyw beth yn yr amodau a’r telerau hyn fel ymgais i gyfyngu neu eithrio ein hatebolrwydd am unrhyw anaf personol o ganlyniad i’n hesgeulustod neu fater arall y byddai’n anghyfreithiol i ni ei eithrio.

Mynediad I’r Wefan A’r Cynnwys

8. Byddwn yn ymdrechu i ganiatáu mynediad di-dor i’r wefan ond gall mynediad i’r wefan gael ei atal, ei gyfyngu neu ei derfynu ar unrhyw adeg.

9. O ystyried natur trosglwyddo data’n electronig dros y rhyngrwyd a nifer y defnyddwyr, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anallu i gyrchu’r wefan.

10. Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd na fydd firysau ar y wefan neu unrhyw beth arall a allai gael effaith niweidiol ar unrhyw dechnoleg.

Eiddo Deallusol

11. Mae hawlfraint y deunydd ar y wefan hon ynghyd â dyluniad, testun a graffeg y wefan, eu detholiad a’u trefniad, yn eiddo i Hybu Cig Cymru. Cedwir pob hawl. Gall defnyddwyr lawrlwytho deunyddiau at eu defnydd personol, anfasnachol eu hunain, ar yr amod y cedwir yr holl hawlfraint a hysbysiadau perchnogol eraill. Gwaherddir copïo, ailddosbarthu, ail-bostio, cyhoeddi, addasu neu newid unrhyw ran o’r wefan hon at unrhyw ddibenion cyhoeddus neu fasnachol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Hybu Cig Cymru.

Diogelu Data

12. Os ydych yn cyflwyno data i’w ddangos ar y wefan, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod y data’n gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol a dylech ddiweddaru’r data hwnnw pan fo angen.

13. Os ydych yn cyflwyno data i’w ddangos ar y wefan, rydych yn gyfrifol am sicrhau na chaiff unrhyw ddata ei uwchlwytho neu ei gyflwyno os yw’n anwir, yn ddifrïol, yn anweddus neu’n sarhaus, neu fel arall yn annymunol neu sy’n torri unrhyw ddeddfau perthnasol neu hawliau trydydd partïon.

Rydych yn gwarantu eich bod wedi cymryd yr holl ragofalon rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw ddata rydych yn ei uwchlwytho neu’n ei gyflwyno fel arall i’r wefan yn cynnwys firysau neu unrhyw beth arall a allai gael effaith halogedig neu ddinistriol ar unrhyw ran o’r wefan neu dechnoleg arall.

Cyffredinol

14. Gallai’r wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid yw HCC yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan arall nac am adolygiad parhaus gwefannau eraill. Nid yw cynnwys dolen i wefannau o’r fath yn awgrymu bod HCC yn eu hardystio. Os ydych yn dilyn dolenni i unrhyw wefannau eraill, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.

Nid yw HCC yn cynrychioli nac yn gwarantu y bydd y wefan hon, neu unrhyw wefan arall y mae ein gwefan ni’n gysylltiedig â hi, yn hygyrch neu ar gael yn brydlon neu y bydd mynediad yn ddi-dor neu’n ddi-wall.

Mae HCC yn cadw’r hawl i newid neu ddileu deunydd o’r wefan ar unrhyw adeg.

Gall HCC, ar unrhyw adeg a heb rybudd, adolygu’r amodau drwy ddiweddaru’r cofnod hwn. Rydych yn rhwym i unrhyw adolygiadau o’r fath a dylech, felly, ymweld â’r dudalen hon o dro i dro i adolygu’r Amodau a’r Telerau cyfredol.

15. Gall HCC derfynu eich mynediad i’r wefan. Bydd pob ymwadiad, digollediad ac eithriad yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn parhau’n berthnasol ar ôl terfynu’r cytundeb rhyngom ni am unrhyw reswm.

16. Os canfyddir bod unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, pennir bod y ddarpariaeth wedi’i thorri ac ni effeithir ar ddilysrwydd na gorfodadwyedd y darpariaethau sy’n weddill yn yr Amodau a’r Telerau hyn.

Llywodraethir a dehonglir yr amodau a’r telerau hyn yn unol â chyfraith Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr, y bydd y ddau barti yn cydymffurfio â hi. Mae HCC yn cadw’r hawl i newid neu ddiweddaru’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd.

Cwcis

17. Mae’r wefan yn defnyddio nifer o “gwcis”, sef ffeiliau testun bach a roddir ar eich cyfrifiadur gyda’ch caniatâd, i’n helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio’r wefan, i storio’ch dewisiadau (lle cânt eu mynegi), ac i ddarparu gwasanaethau a chynigion rydym yn meddwl fyddai’n fwy addas i’ch anghenion neu a fyddai o ddiddordeb i chi. Gallem hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ein rhan. Gallwch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, os ydych yn gwneud hyn, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn.

18. Mae’r wefan hon hefyd yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi ar y we a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i Google a’i storio ganddo ar ei weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso’ch defnydd o’r wefan gan lunio adroddiadau ar weithgarwch gwefan ar gyfer gweithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch gwefan a defnydd o’r rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a ddelir gan Google. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd hon ac at y dibenion a nodwyd uchod.

Termau Ychwanegol Ar Gyfer Rhannau Penodol O’r Wefan

Ymuno â Theulu Cig Oen Cymru – amodau a thelerau’r gystadleuaeth

Telerau Byr

18+ oed yn y DU. Cofrestrwch erbyn 12 Ionawr 2018 i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill un o bedwar profiad coginio i ddau ar 10 Chwefror 2018 gydag Angela Gray ym Morgannwg, Cymru. Yn cynnwys aros noson mewn ystafell ddwbl yng Ngwinllan Llanerch.

Amodau Llawn

Bydd yr amodau a’r telerau hyn yn trechu yn achos unrhyw wrthdaro neu anghysondeb ag unrhyw ohebiaeth arall, gan gynnwys deunyddiau hysbysebu neu hyrwyddo. Ystyrir bod y cyfarwyddiadau i gymryd rhan a hawlio’n rhan o’r amodau a’r telerau a thrwy gymryd rhan ystyrir bod yr holl ymgeiswyr wedi derbyn yr amodau a’r telerau ac yn rhwymedig iddynt. Cadwch gopi er gwybodaeth.

Hyrwyddwr: Hybu Cig Cymru, Tŷ Rheidol, Parc Merlin, Aberystwyth SY23 3FF

Cymhwysedd

1. Mae’r hyrwyddiad ar agor i breswylwyr y DU sy’n 18 oed ac yn hŷn, ac eithrio gweithwyr Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, eu perthnasau agosaf neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r hyrwyddiad hwn.

2. Nid oes rhaid prynu unrhyw beth. Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn ofynnol.

Cyfnod yr Hyrwyddiad:

3. Mae’r hyrwyddiad yn dechrau am 15:00 ar 5 Rhagfyr 2017 a rhaid derbyn ceisiadau erbyn 23:59 ar 12 Ionawr 2017 fan bellaf.

Cymryd Rhan

4. I gystadlu, cyflwynwch eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch côd post i gofrestru ar gyfer Teulu Cig Oen Cymru ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Fel rhan o’ch cofrestriad gyda Theulu Cig Oen Cymru, byddwch yn derbyn gwybodaeth a chynigion gan HCC Cig Oen Cymru sy’n ymwneud â’i gynnyrch. Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

5. Un cofrestriad yn unig a dderbynnir fesul person. Bydd unrhyw un sy’n ceisio bod yn drech na’r rheol hon drwy ddefnyddio manylion eraill yn cael ei ddiarddel o’r hyrwyddiad hwn. Ni dderbynnir ceisiadau (mewn swmp neu fel arall) gan grwpiau masnach, defnyddwyr neu drydydd partïon.

Gwobrau

6. Mae 4 gwobr. Bydd pob enillydd yn derbyn Profiad Coginio Cig Oen Cymru ddydd Sadwrn 10 Chwefror 2018 iddo’i hun yn ogystal ag un gwestai gyda’r cogydd enwog, Angela Gray. Mae’r wobr yn cynnwys arhosiad dros nos i’r enillydd a’i westai mewn ystafell ddwbl ar 9 Chwefror 2018 (y noson cyn y profiad coginio) yng Ngwinllan hyfryd Llanerch. Ni chynhwysir teithio a bwyd.

7. Mae’r wobr fel a nodwyd ac ni ellir cael unrhyw wobr wahanol neu arian parod yn ei lle, ac eithrio yn achos amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr pan fydd yn cadw’r hawl i gynnig gwobr amgen o werth cyfartal neu fwy. Nid yw’r wobr yn drosglwyddadwy.

8. Mae amodau a thelerau trydydd parti’n berthnasol.

Dewis/Hysbysu’r Enillydd

9. Yr enillwyr fydd yr enwau cyntaf a ddewisir ar hap dan oruchwyliaeth annibynnol o’r holl geisiadau cymwys. Dewisir yr enillwyr ddydd 15 Ionawr 2018.

10. Bydd yr hyrwyddwr yn gwneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â’r enillydd drwy e-bost (yn y cyfeiriad a ddarparwyd wrth gystadlu) o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad cau i roi manylion llawn sut i hawlio’r wobr. Bydd gan yr enillydd 7 niwrnod i ymateb. Os na ellir cysylltu â’r enillydd neu nid yw’n ymateb neu os nad yw mewn sefyllfa i dderbyn y wobr, gallai’r hyrwyddwr, yn ôl ei ddisgresiwn, dynnu’r hawl i’r wobr yn ôl a dewis enillydd arall.

11. Mae’r enillwyr yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd sy’n cyd-fynd â’r hyrwyddiad neu’n deillio ohono. Ni roddir unrhyw iawndal ychwanegol am weithgarwch hyrwyddol o’r fath.

Cyffredinol

12. Bydd enw llawn a sir yr enillwyr ar gael drwy anfon amlen gyfeiriedig â stamp arni i Welsh Lamb Cooking Competition, Units N2 & N5, New Workshops, Beehive Yard, Bath, BA1 5BT o fewn tri mis i’r dyddiad cau.

13. Ni dderbynnir ceisiadau anghyflawn, annarllenadwy, wedi’u camgyfeirio, hwyr neu mewn swmp. Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy’n mynd ar goll neu nad ydynt yn cael eu derbyn neu sydd wedi’u hoedi, gan gynnwys oedi oherwydd gwall technegol. Ni dderbynnir prawf anfon fel prawf derbyn.

14. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wirio’r holl geisiadau gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, ofyn am fanylion cyfeiriad a hunaniaeth (y mae’n rhaid iddynt eu darparu o fewn 14 diwrnod) ac i wrthod rhoi gwobr neu dynnu hawliad i wobr yn ôl a/neu wrthod cyfranogiad pellach yn yr hyrwyddiad a bydd yn diarddel y cyfranogwr pan fo lle rhesymol i gredu y torrwyd yr amodau a’r telerau hyn neu unrhyw gyfarwyddiadau sy’n rhan o ofynion cystadlu’r hyrwyddiad hwn neu fel arall lle mae cyfranogwr wedi cael mantais annheg wrth gymryd rhan yn yr hyrwyddiad neu wedi ennill trwy ddulliau twyllodrus.

15. Os, am unrhyw reswm, nid oes modd cynnal unrhyw agwedd ar yr hyrwyddiad hwn fel a gynlluniwyd, gan gynnwys rhesymau fel firws ar gyfrifiadur, diffyg rhwydwaith, namau cyfrifiadurol, ymyrraeth anawdurdodedig, twyll, diffygion technegol neu unrhyw achos arall y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr sy’n llygru neu’n effeithio ar weinyddiaeth, diogelwch, tegwch, gonestrwydd neu ddull cynnal priodol yr hyrwyddiad hwn, gall yr hyrwyddwr, yn ôl ei ddisgresiwn, addasu neu ohirio’r hyrwyddiad hwn neu annilysu unrhyw geisiadau/hawliadau yr effeithiwyd arnynt. Os bydd gweithred, hepgoriad, digwyddiad neu amgylchiad yn codi sydd y tu hwnt i reolaeth resymol yr hyrwyddwr ac sy’n atal yr hyrwyddwr rhag cydymffurfio â’r amodau a’r telerau hyn, ni fydd yr hyrwyddwr yn atebol am unrhyw fethiant i berfformio neu oedi wrth berfformio ei ddyletswydd.

16. Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion neu hawliadau sy’n deillio o’r hyrwyddiad hwn ac eithrio mewn achosion o anaf neu farwolaeth o ganlyniad i’w esgeulustod ei hun.

17. Mae penderfyniad yr hyrwyddwr yn derfynol ac ni ymatebir i unrhyw ohebiaeth.

18. Os pennir bod unrhyw un o’r cymalau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy, yna caiff ei dorri a’i ddileu o’r amodau a’r telerau hyn a bydd y cymalau sy’n weddill yn parhau’n berthnasol, mewn grym ac effaith llawn.

19. Bydd unrhyw gwestiwn ynghylch dehongliad cyfreithiol y rheolau yn seiliedig ar ddeddf Lloegr a bydd gan Lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw.

Diogelu Data

20. Bydd yr hyrwyddwr yn defnyddio’r manylion personol a ddarparwyd at y dibenion y cydsyniwyd iddynt. Cedwir eich manylion personol yn gyfrinachol ar bob adeg ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Cliciwch yma ar gyfer Polisi Preifatrwydd yr hyrwyddwr. Gallwch wneud cais i gyrchu’ch data personol neu i gywiro unrhyw wallau drwy e-bostio info@hccmpw.org.uk. Drwy gymryd rhan yn yr hyrwyddiad hwn, rydych yn cytuno i’ch data personol gael ei ddefnyddio fel a ddisgrifir yma.

Share This